Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 665 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
Sir | Swydd Kerry |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 26.306 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 51.9°N 10.35°W |
Hyd | 11 cilometr |
Ynys Falentia (Gwyddeleg: Dairbhre, sy'n golygu "Y Goedwig Dderw") yw un o fannau mwyaf gorllewinol Iwerddon. Mae'n gorwedd oddi ar Benrhyn Iveragh yn ne-orllewin Sir Kerry/Ciarrai. Mae wedi'i gysylltu â'r tir mawr gan Bont Goffa Maurice O'Neill yn Portmagee. Mae fferi ceir hefyd yn gadael o Reenard Point i Knightstown, prif anheddiad yr ynys, rhwng Ebrill a Hydref. Mae ail bentref llai o'r enw Chapeltown wedi'i leoli yn fras ar ganol yr ynys, 3 cilometr (2 mi) o'r bont. Poblogaeth barhaol yr ynys yw 665 (fel o 2011). Mae'r ynys yn oddeutu 11 cilometr (7 mi) o hyd a bron i 3 cilometr (2 mi) o led.